Battery@PyC
Credir mai hwn yw batri a gyd-leolir mwyaf y Deyrnas Unedig gyda fferm wynt ar y tir.
Ac yntau’n helpu i gynnal cyflenwad sefydlog o drydan i gartrefi’r Deyrnas Unedig, gall Battery@PyC ymateb i anghenion y Grid Cenedlaethol mewn llai nag eiliad.
Daeth y battery@pyc 22 Megawat yn weithredol ym mis Mai 2018 yn Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn Ne Cymru.
Mae’r prosiect yn defnyddio batris ïon lithiwm a gedwir mewn unedau cynhwysyddion llongau yn y cyflawniad cyntaf hwn i Gymru. Mae’r fferm wynt a’r Cyfleuster Storio Batris yn rhannu seilwaith grid, ac felly gall y batris naill ai cael eu pweru gan y fferm wynt neu’n uniongyrchol o’r grid. Mae Battery@pyc wedi’i ffurfio o chwe uned maint cynhwysyddion llongau, y mae pump ohonynt yn cadw 500 o becynnau batris a weithgynhyrchwyd ar gyfer BMW i3.
Beth yw Ymateb Amledd Gwell?
Mae ymateb amledd yn helpu i gadw system y grid trydan ar amledd o 50Hz. Darperir ymateb amledd gan wahanol gynhyrchwyr ynni a thechnolegau storio, ond mae Ymateb Amledd Gwell yn fath cyflymach o ymateb amledd.
Diffinnir Ymateb Amledd Gwell gan Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol fel gwasanaeth sy’n cyflawni allbwn pŵer gweithredol 100% ar ôl 1 eiliad (neu lai) o gofrestru gwyriad amledd. Mae hyn yn cyferbynnu â gwasanaethau ymateb amledd presennol Sylfaenol sydd â graddfeydd amser o 10 eiliad, ac Eilaidd sydd â graddfeydd amser o 30 eiliad. Mae hwn yn wasanaeth newydd a ddatblygir i wella’r ffordd o reoli cyn-ddiffyg amledd y system, hynny yw, cynnal amledd y system yn nes at 50Hz o dan weithrediad arferol.