Pen y Cymoedd
Y fferm wynt uchaf yn y Deyrnas Unedig
Pen y Cymoedd yw’n fferm wynt flaenllaw ar y tir, a leolir yn Ne Cymru. Gall ei 76 tyrbin gynhyrchu digon o drydan i bweru 15% o gartrefi Cymru bob blwyddyn. Yn ychwanegol at gynhyrchu trydan di-ffosil, cyd-leolir batri 22 megawat yn y fferm wynt.
Mae’r batri’n gallu ymateb i anghenion y system grid mewn llai nag eiliad – gan gynnal cyflenwad sefydlog o drydan i gartrefi’r Deyrnas Unedig.
Mae yna hefyd orsafoedd gwefru cerbydau trydan wedi’u gosod yn y fferm wynt, wrth inni baratoi i wneud ein holl fflyd o gerbydau’n drydanol yn y pedair blynedd nesaf.
Ffeithiau allweddol
Nifer y Tyrbinau | 76 |
Capasiti trydan | 228 Megawat |
Nifer y cartrefi y flwyddyn | 188,000 |
Battery@PyC | 22 Megawat |
Buddsoddiad yng Nghymru yn ystod adeiladu | £220 miliwn |
Y Gronfa Gymunedol | £1.8 miliwn y flwyddyn |
Swyddi lleol | 30 |
Gweithredol | 2017 |
Newyddion am Pen y Cymoedd
Darllenwch y newyddion diweddaraf am y fferm wynt a'r gronfa gymunedol yn y cylchlythyr yma.
Cymrwch olwg agos ar Pen y Cymoedd
Lleolir y fferm wynt ar safle mynediad agored, sy’n denu cerddwyr a beicwyr sy’n reidio ar hyd ei llwybrau a’i thraciau niferus. Un o’r rhain yw Blade – llwybr beicio mynydd a ariannwyd gan Vattenfall.
Buddion lleol o’r fferm wynt
Y tu hwnt i’r fferm wynt, mae yna fwy na 100 o swyddi wedi’u cynnal gan gynllun budd cymunedol y prosiect. Drwy fuddsoddiad blynyddol gwerth £1.8 miliwn, mae’r cyllid yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol – y gwnaed y cyfan yn bosibl gan y fferm wynt.
Y Prosiect Mawndiroedd Coll a’r Cynllun Rheoli Cynefin
Mae Treorci, tref lofaol gynt yng Nghymoedd De Cymru, yn mynd o nerth i nerth, gan ennill teitl stryd fawr orau’r Deyrnas Unedig yn 2019. Ymgeisiodd y dref am bron i £25,000 gan Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd tuag at eu menter Ymweld â Threorci. Mae’r fenter hon wedi helpu i greu’r weledigaeth sydd ei hangen i uno busnesau hyfyw a mwy na 50 o gymunedau cymunedol, gan ffurfio gweledigaeth i annog pobl leol ac ymwelwyr, fel ei gilydd, i ddod i fforio’r dref fywiog a phrysur hon.
Y Prosiect Mawndiroedd Coll a’r Cynllun Rheoli Cynefin
Bydd y Prosiect Mawndiroedd Coll a’r Cynllun Rheoli Cynefin yn Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn sbarduno un o’r adferiadau mwyaf i fawndiroedd yn ne Prydain, gan hefyd greu gwell cyfleoedd ar gyfer cymunedau lleol, pobl ifanc ac ymwelwyr i ymgysylltu â’r amgylchedd.